Adran 3
Cyflwyno eich Cynorthwywyr Personol i’w rôl newydd
Mae’r ychydig ddiwrnodau, wythnosau a misoedd cyntaf yn bwysig iawn gan y bydd eich Cynorthwywyr Personol yn dysgu am y swydd. Gall cyflwyniad neu gyfnod sefydlu wedi’i gynllunio fod o gymorth i’ch Cynorthwywyr Personol i ymgyfarwyddo â rôl newydd, deall beth sy’n bwysig i chi a sut i’ch cynorthwyo chi neu’r unigolyn sydd angen cefnogaeth a chymorth.
Gall hefyd eich helpu i ystyried sut i:
- esbonio beth yw taliadau uniongyrchol a sut maent yn gweithio
- cyflwyno eich Cynorthwywyr Personol i’ch amgylchedd cartref
- cyflwyno eich Cynorthwywyr Personol i bobl eraill sy’n rhan o’ch bywyd chi neu’r unigolyn sydd angen cymorth, gan gynnwys eich teulu, eich ffrindiau, Cynorthwywyr Personol eraill
- esbonio a rhoi gwybod i’ch Cynorthwywyr Personol am eu rôl a’u cyfrifoldebau
- cynorthwyo eich Cynorthwywyr Personol i ddatblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen
- sefydlu perthynas weithio dda sy’n seiliedig ar barch, urddas ac ymddiriedaeth
- egluro ffiniau fel y gwahaniaeth rhwng perthynas cyflogwr a chyflogai a bod yn ffrindiau
- sicrhau dealltwriaeth o delerau ac amodau cyflogaeth
Weithiau, bydd Cynorthwy-ydd Personol wedi gweithio yn rhywle arall ac eisoes wedi cael cyfnod sefydlu. Fodd bynnag, mae’n bwysig i bob Cynorthwy-ydd Personol gael cyfnod sefydlu yn ei rôl newydd i ddiweddaru ei (g)wybodaeth, ei helpu i ddeall eich gofynion a’ch helpu chi i ymgyfarwyddo â’i (g)alluoedd.
Gallwch ymdrin â chyfnod sefydlu mewn ffyrdd gwahanol, ond mae’n ddefnyddiol ysgrifennu cynllun o’r hyn a ddylai ddigwydd, sut ac erbyn pryd y dylid cyflawni hyn. I gyflawni hyn, gallwch:
- ddefnyddio’r swydd ddisgrifiad, contract gwaith a’r canlyniadau a nodwyd yn y cynllun yr ydych wedi eu trafod a’u cytuno gyda’ch Awdurdod Lleol yn sylfaen ar gyfer sefydlu
- meddwl am y meysydd gwybodaeth allweddol y bydd eu hangen ar eich Cynorthwy-ydd Personol, er enghraifft beth i’w wneud os bydd tân neu pam mae’n bwysig peidio â rhannu gwybodaeth bersonol amdanoch chi gyda phobl eraill. Neu efallai y bydd angen cymorth arnoch i drosglwyddo o gadair olwyn a bydd angen i’ch Cynorthwy-ydd Personol wybod sut i’ch cynorthwyo â hyn yn ddiogel
- cynnwys Cynorthwywyr Personol eraill mwy profiadol, aelodau o’ch teulu neu’ch ffrindiau sy’n gallu esbonio a dangos sut i’ch helpu â thasgau
- trafod yr hyn y mae angen iddo/iddi ei ddysgu i allu’ch cynorthwyo chi neu’r unigolyn sydd angen cymorth a nodi ffyrdd gwahanol o ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau hyn, er enghraifft cyrsiau hyfforddi, e-ddysgu, darllen neu fod rhywun yn arddangos sut i wneud tasg
- trafod unrhyw ofynion penodol sydd ganddo/ganddi i gael mynediad at ddysgu a sut gellir ei gynorthwyo/chynorthwyo
- cynllunio amser i esbonio sut mae pethau’n gweithio, eich arferion, ble i fynd, paratoi prydau, mynd i’r gwaith, gosod terfynau o ran yr hyn y mae’n gallu a ddim yn gallu ei wneud fel pwysigrwydd cadw amser
- cynllunio amser i drafod a holi cwestiynau i wirio ei d(d)ealltwriaeth
Gallwch ddefnyddio neu addasu’r ffurflen sefydlu isod neu’r enghraifft o ffurflen wedi’i chwblhau. Ceir adnoddau eraill a ddatblygwyd i gynorthwyo sefydlu fel Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol Cymru ac mae gwasanaethau cymorth taliadau uniongyrchol yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad.